OneBodyOneFaith to Host Second Memorial Service, in Cardiff

OneBodyOneFaith to Host Second Memorial Service, in Cardiff

Following the powerful service of memorial on the 23rd April 2023 in London, we are, with the Bishops in the Church in Wales, organising the second national memorial service to remember and commemorate all LGBT+ people who have lost their lives to suicide or experienced harm following exclusion from Christian faith communities. 

The service will be at 5.30pm on Sunday 26th May at Llandaff Cathedral in Cardiff. 

We recognise that the loss of life of LGBT+ persons to suicide, following rejection and harm in church communities, rarely features as part of the national and international dialogue about LGBT+ belonging in faith communities. It is imperative that this loss of life of LGBT+ people is recognised, grieved over, and remembered. All Christian traditions must take this seriously and actively respond as we look forward together to safeguard LGBT+ people from harm in church. We have also welcomed the recognition given to this loss of life in statutory partner agencies and in government and invite all participants to engage honestly and openly in remembrance for those we have lost, and for whom we all grieve. 

The event will provide a structured time of memorial for those who have been lost and those who have been harmed and will also intentionally look forward to more respectful dialogue, as a number of denominations move to a more inclusive environment. 

Pastoral support will be provided on the day, for those in need. 

The service will be followed by refreshments.

To book your place and reserve a seat, bookings are now open on EventBrite

For further information, please contact andrea@onebodyonefaith.org.uk and katie@onebodyonefaith.org.uk.

 

OneBodyOneFaith yn Cynnal Ail Wasanaeth Coffa, yng Nghaerdydd 

Yn dilyn y gwasanaeth coffa pwerus ar 23 Ebrill 2023 yn Llundain, rydym ni, ynghyd â’r Esgobion yn yr Eglwys yng Nghymru, yn trefnu’r ail wasanaeth coffa cenedlaethol i gofio a choffáu’r holl bobl LHDT+ sydd wedi colli eu bywydau i hunanladdiad neu wedi dioddef niwed am iddynt gael eu gwrthod gan gymunedau ffydd Cristnogol.  

Bydd y gwasanaeth ddydd Sul 26 Mai yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd.

Rydym yn cydnabod mai anaml y mae'r ddeialog genedlaethol a rhyngwladol ynghylch lle pobl LHDT+ mewn cymunedau ffydd yn sôn am y ffaith fod pobl LHDT+ yn colli eu bywydau i hunanladdiad ar ôl iddynt gael eu gwrthod a'u niweidio mewn cymunedau eglwysig.  Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod bod pobl LHDT+ yn colli eu bywydau, a'n bod yn galaru amdanynt ac yn eu cofio.  Rhaid i bob traddodiad Cristnogol gymryd hyn o ddifrif a mynd ati i ymateb wrth i ni edrych ymlaen gyda'n gilydd er mwyn diogelu pobl LHDT+ rhag niwed yn yr eglwys.  Rydym hefyd wedi croesawu’r gydnabyddiaeth a roddir i’r colledion hyn mewn asiantaethau partner statudol ac yn y llywodraeth a gwahoddwn bawb  i gymryd rhan yn onest ac yn agored er cof am y rhai yr ydym wedi’u colli, ac y mae pawb ohonom yn galaru amdanynt. 

Bydd y gwasanaeth yn cynnig amser penodol i gofio’r rhai a gollwyd a’r rhai sydd wedi’u niweidio a bydd yn mynd ati'n fwriadol i edrych ymlaen at ddeialog fwy parchus, wrth i nifer o enwadau symud tuag at amgylchedd mwy cynhwysol.  

Bydd cymorth bugeiliol ar gael ar y diwrnod, ar gyfer y rhai y bydd arnynt ei angen.  

Gallwch archebu eich lle a chadw sedd yn awr trwy EventBrite.  

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch ag andrea@onebodyonefaith.org.uk neu katie@onebodyonefaith.org.uk.